Mae teulu’r dyn busnes o Geredigion a gafodd ei ladd mewn damwain ffordd yn Sbaen ddechrau’r mis, wedi talu teyrnged i “ŵr a thad cariadus”.
Roedd Phillip Rasmussen, prif swyddog cyllid a chyfarwyddwr gyda chwmni technoleg gwybodaeth, IQE, yn byw yn Aberporth, ger Aberteifi.
Roedd y dyn 47 oed, a oedd yn dad i dri o blant, ar ei wyliau ym Menorca pan gafodd ei daro oddi ar ei feic gan gar ar Ebrill 1.
Yn dilyn y digwyddiad, fe blediodd Bryan Leeds, 25 oed, o Efrog Newydd, yn euog yn y llys o ladd Phillip Rasmussen.
Dedfryd o garchar wedi’i ohirio a gafodd, er ei fod wedi yfed mwy na’r lefel cyfreithlon o alcohol. Fe gafodd hefyd yr hawl i adael yr ynys.
“Byw bywyd llawn”
Mewn datganiad, mae’r teulu’n dweud y bydd Phillip Rasmussen yn cael ei “golli’n fawr gan bawb”, a’i fod yn “ŵr a thad cariadus” i’w wraig Elissa, a’i blant, Rhys, Beci a Dylan.
“Fe wnaeth e fyw bywyd llawn, ac fe fydd yn cael ei gofio am ei egni a’i frwdfrydedd tuag at bob agwedd o fywyd,” meddai’r datganiad.
“Roedd yn hwyliwr a seiclwr brwdfrydig, ac yn caru trafaelu.
“Fe hoffwn ni ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’n golygu llawer i’r teulu cyfan.”