Mae dyn wedi marw ar ôl rhedeg dros ugain o filltiroedd ym Marathon Llundain.
Cafodd Matt Campbell, 29, ei daro’n wael ar ôl rhedeg 22.5 milltir, a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu iddo farw.
Yn hanu o ogledd Loegr, roedd yn gogydd proffesiynol ac yn gyn-gystadleuydd ar raglen deledu MasterChef: The Professionals yn 2017.
Dyma oedd ail farathon Matt Campbell o fewn pythefnos – roedd wedi cwblhau ras ym Manceinion cyn rhedeg yn Llundain.
Roedd yn rhedeg ar ran elusen The Brathay Trust er cof am ei dad, a fu farw haf 2016.