Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref i ennill gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor ar y diwrnod olaf yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, diolch i ganred a sgôr unigol gorau erioed y chwaraewr amryddawn David Lloyd.
Tarodd e 119 wrth i Forgannwg sgorio cyfanswm o 526 am naw cyn cau’r batiad, gan roi mantais batiad cyntaf iddyn nhw o 290. Erbyn diwedd y dydd, roedd Swydd Gaerloyw’n 133-5 yn eu hail fatiad, 157 o rediadau i ffwrdd o osgoi colli o fatiad.
Sesiwn y bore
Dechreuodd Morgannwg y trydydd diwrnod 60 o rediadau ar y blaen i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerloyw o 236, a hynny ar ôl i Shaun Marsh daro 111 yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir.
Roedd Marchant de Lange yn 50 heb fod allan ar ddiwedd y batiad, wrth iddo daro’i hanner canred cyntaf yn y gêm sirol yng Nghymru a Lloegr.
Morgannwg oedd ar y blaen am ran fwya’r trydydd diwrnod ddoe, wrth i ddwy wiced yn unig gwympo yn ystod y bore – Chris Cooke am 43 ac Andrew Salter am bedwar wrth i’r Cymry orffen y sesiwn gyntaf ar 408 am saith.
Sesiwn y prynhawn
Ar ôl bore pwyllog, dechreuodd David Lloyd a Marchant de Lange ymosod, wrth i Lloyd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 85 o belenni, gan daro naw pedwar.
Fe gyrhaeddodd ei ganred gyda dwy ergyd am bedwar a chwech, ac roedd e wedi wynebu 157 o belenni erbyn i’w fatiad ddod i ben. Roedd wedi ychwanegu 160 gyda Marchant de Lange am yr wythfed wiced cyn mynd allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Benny Howell. Mae’r bartneriaeth yn record am yr wythfed wiced i Forgannwg yn erbyn y sir.
Roedd Marchant de Lange eisoes wedi creu argraff gyda’r bêl wrth gipio pum wiced ar y diwrnod cyntaf.
Collodd Swydd Gaerloyw ddwy wiced yn hwyr yn y sesiwn cyn te, wrth i Lukas Carey gipio wiced Benny Howell a Gareth Roderick i gyfyngu’r Saeson i 18 am ddwy.
Y sesiwn olaf
Parhau i gwympo wnaeth y wicedi yn y sesiwn olaf, wrth i Chris Dent gael ei ddal gan Andrew Salter oddi ar Marchant de Lange am 12.
Batiodd James Bracey a Jack Taylor am awr i geisio achub y Saeson, ond fe gafodd Taylor ei ddal oddi ar ymyl ei fat gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Marchant de Lange am 29.
Roedd Swydd Gaerloyw’n 84 am bump wrth i Graeme van Buuren golli ei wiced, ond fe lwyddodd James Bracey a Ryan Higgins i osgoi colli rhagor o wicedi wrth i Swydd Gaerloyw orffen ar 133-5, sy’n golygu eu bod nhw ar ei hôl hi o 157 gyda phum wiced yn weddill.
‘Sefyllfa dda’
Ar ddiwedd y trydydd diwrnod, dywedodd David Lloyd: “Dw i’n falch iawn o fod wedi cael dechrau cystal i’r tymor ac o fod wedi sgorio cant yma.
“Ond yn bwysicach, yn nhermau’r gêm, mae wedi ein helpu ni i greu sefyllfa dda wrth fynd i mewn i’r diwrnod olaf.
“Gobeithio y gallwn ni goroni gêm dda hyd yn hyn drwy fwrw iddi ac ennill.
“Dydi hi ddim yn hawdd sgorio allan yna oherwydd bod y llain yn eitha’ araf. Hefyd, os ydi’r bowlwyr yn bowlio’n syth ac yn amyneddgar, mi fydd y llain yn cynnig rhywbeth.
“Dw i’n credu bod Marchant [de Lange] wedi batio’n dda iawn a bydd y batiad hwnnw’n rhoi hyder iddo fo.”