Un o sêr canu ysgafn yr 1960au yw enillydd Medal Goffa T H Parry-Williams yn yr Eisteddfod eleni.
Roedd Meinir Lloyd, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd, yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu’r cyfnod a daeth un o’i chaneuon, ‘Watshia Di Dy Hun’, yn boblogaidd iawn yn ddiweddar.
Mae’r Fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Ers ymgartrefu yng Nghaerfyrddin yn 1972, mae hi wedi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal. Mae nifer fawr ohonynt yn enillwyr cyson mewn eisteddfodau ac yn yr Ŵyl Gerdd Dant, ac yn adnabyddus fel perfformwyr mewn nosweithiau cerddorol a chyngherddau o bob math.
Am flynyddoedd, bu’n hyfforddi’n wirfoddol bartïon myfyrwyr Coleg y Drindod: yna sefydlodd barti bechgyn Bois y Dderwen, ac yn ddiweddarach gôr merched Telynau Tywi, côr y bu’n ei arwain am bymtheg mlynedd.
Bu’n organydd yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, am dros 45 mlynedd, a hi oedd Llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru y llynedd.
Bydd Meinir Lloyd yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.