Fe fydd yr Eisteddfod yn torri i lawr yn sylweddol ar ddefnyddio plastig ar y Maes yng Nghaerdydd eleni, gyda’r bwriad o wahardd plastig un-tro’n gyfan gwbl o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Yn ogystal â gwahardd gwellt plastig ar gyfer diodydd o bob stondin, mae’r trefnwyr yn gweithio gyda darparwyr y bariau ar wahardd y defnydd o wydrau un-tro yn y bariau a chyflwyno gwydrau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd.

Bydd yr ŵyl hefyd yn cynhyrchu cwpanau paned y gellir eu defnyddio eto ynghyd â photeli dŵr ar gyfer plant, mewn cynllun radical a fydd yn torri i lawr yn sylweddol ar y defnydd o blastig un-tro, ac mae’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, yn galw ar ymwelwyr i gefnogi’r prosiect.

“Mae cynaladwyedd yn bwysig iawn i ni ac i’n partneriaid, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dŵr Cymru am eu cefnogaeth unwaith eto eleni yn gosod gorsafoedd dŵr yfed rhad ac am ddim o amgylch y Maes,” meddai.  “Bydd hyn yn galluogi ymwelwyr i ail-lenwi’u poteli pwrpasol drosodd a throsodd yn ystod eu hymweliad â’r ŵyl.

Llymaid cynaliadwy

“Wrth gwrs, bydd rhai pobl yn awyddus am lymaid gwahanol neu gryfach hyd yn oed, a thrwy’r bartneriaeth gyda’r darparwyr bariau, byddwn yn cyflwyno gwydrau y gellir eu defnyddio eto.  Bydd ymwelwyr yn talu £1 am y gwydr wrth archebu’u diod cyntaf, ac yna’n ei ddychwelyd i’r bar am wydr glân yn rhad ac am ddim am weddill y dydd.  Mae croeso i ymwelwyr gadw’u gwydr ar y diwedd.

“Dyma flwyddyn gyntaf cynllun uchelgeisiol sy’n arwain at wahardd y defnydd o blastig un-tro yn gyfangwbl ar Faes yr Eisteddfod.  Rydym yn hollol ymroddedig i warchod yr amgylchedd, ac yn galw ar ein hymwelwyr i ymuno gyda ni er mwyn i ni wireddu’r cynllun hwn yn llwyddiannus.”