Fe fydd rhanbarth rygbi’r Gweilch yn eu cael eu hunain ynghanol protestiadau tros drais yn erbyn merched wrth chwarae yn erbyn Ulster nos fory.

Mae grŵp ymgyrchu yn Belffast yn bwriadu cynnal rali cyn y gêm pro-14 rhwng y ddau dîm ar ôl i lys benderfynu bod dau o chwaraewyr Ulster yn ddieuog o dreisio dynes ifanc yr un noson.

Mae’r grŵp, Rhwydwaith Ffeministaidd Belffast, yn dweud eu bod eisiau newid sut y mae achosion o drais rhywiol yn cael eu trin a newid agweddau at fenywod.

Y cefndir

Mae’r achos llys yn erbyn Paddy Jackson a Stuart Olding wedi creu anghytuno mawr yn Iwerddon – nid yn unig am fod y ddau wedi’u cael yn ddieuog ond oherwydd manylion y ffordd yr oedden nhw wedi trin y wraig ifanc.

Roedd y ddau wedi brolio ar gyfryngau cymdeithasol ar y pryd eu bod wrthi yn “rhostio” dynes ond roedden nhw wedi gwadu ei threisio hi.

Mae gwahanol garfannau o bobol wedi talu am hysbysebion papur newydd yn annog rhanbarth Ulster i wrthod chwarae’r ddau eto neu’n dadlau fel arall.

Fe fydd y rali’n cael ei chynnal yn union cyn y gêm y tu allan i stadiwm Ulster.

  • O ran y rygbi, y newyddion mawr yw y bydd capten y Gweilch, Alun Wyn Jones, yn symud i rif 6 yn y rheng ôl yn hytrach na’i safle arferol yn yr ail reng.