Mae prop mwya’ llwyddiannus Cymru wedi arwyddo cytundeb blwyddyn arall i aros gyda rhanbarth y Gleision.
Ac yntau’n 37 oed, fe fydd Gethin Jenkins, capten y rhanbarth, yn aros yng Nghaerdydd ar gyfer tymor 2018-19, gan ddweud bod ganddo gyfraniad mawr i’w wneud o hyd ar y cae.
“Dw i’n falch i arwyddo cytundeb newydd gyda Gleision Caerdydd,” meddai’r prop sydd wedi ennill 129 o gapiau i Gymru – y mwya’ gan neb erioed.
Symud – ‘ddim yn opsiwn’
“Dw i wedi bod yma trwy fy ngyrfa a dw i’n mwynhau bod yn gapten ar y bechgyn a cheisio codi safonau o fewn y grŵp,” meddai. “Doedd symud o’ma erioed yn opsiwn i fi.”
Er mai dim ond dau llond llaw o gêmau y mae wedi’u chwarae y tymor yma oherwydd anafiadau, mae’n dweud ei fod yn falch gyda’i berfformiadau ac yn teimlo bod ganddo gyfraniad o hyd ar y cae.
Ond rhan o’i rôl hefyd yw datblygu chwaraewyr ifanc ac mae’n dweud ei fod wedi cael “sgwrs dda” gyda John Mulvihill, a fydd yn dod yn hyfforddwr ar y rhanbarth y tymor nesa’.