Am dros ganrif, bu Amgueddfa Cymru yn casglu gwrthrychau sy’n adlewyrchu hanes a chymeriad unigryw Cymru. Yr wythnos hon, am y tro cyntaf, bydd hanner miliwn o gofnodion o’r casgliadau i’w gweld ar Casgliadau Ar-lein, ar wefan yr Amgueddfa.
O’r bobol gynharaf i’r Chwyldro Diwydiannol, ac o Gymru fodern i’r Canol Oesoedd – mae 516,358 o eitemau wedi’u digideiddio, er mwyn i bawb allu ymchwilio a chwilota yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
Mae cofnodion o’r casgliadau archaeoleg, hanes, celf a diwydiant nawr i’w gweld, yn ogystal â dros 40,000 delwedd o safon uchel – fydd yn caniatáu i bobl chwilio am hanes sy’n berthnasol iddyn nhw, neu ddarganfod rhai o drysorau’r gorffennol.
Mae’r Casgliadau Ar-lein yn cynnig mynediad unigryw at y casgliad cenedlaethol, ac yn rhoi syniad o beth yn union y mae curaduron yn ei weld wrth ymchwilio i wrthrychau a chynllunio arddangosfeydd.
Mae uchafbwyntiau’r Casgliadau Ar-lein yn cynnwys dant rhinoseros cynhanesyddol o Gymru; gemwaith aur dirgel o Geredigion; awyren wedi’i hadeiladu yng nghartref rhywun yng Nghaerdydd; a Sefydliad y Gweithwyr, gyda llyfrgell ac ystafell biliards, Oakdale.