Mae lluoedd America yn dweud fod cyrch awyr y penwythnos diwethaf yn ne-orllewin Libya wedi lladd un o arweinwyr al-Qaida – yn cynnwys eu pen recriwtiwr.

Roedd Musa Abu Dawud wedi hyfforddi gwrthryfelwyr newydd i fod yn rhan o gangen gogledd Affrica.

Yn 2016, roedd America wedi cyhuddo Abu Dawud o fod â rhan mewn “gweithgareddau brawychol” ers 1992, ac roedden nhw wedi ei enwi fel un o’r brawychwyr byd-eang yr oedden nhw am ei ladd.

Mae’r awdurdodau yn dweud na chafodd pobol gyffredin eu lladd na’u hanafu yn yr ymosodiad ger tref Ubari ar Fawrth 24.