Mae’r fersiwn Cymraeg o’r gwyddoniadur ar-lein, Wikipedia, bellach yn gartref i 100,000 o erthyglau.
Erbyn hyn mae gan y Wicipedia Cymraeg fwy o erthyglau na’r fersiwn Albaneg, Cantonaidd a Macedonaidd; ac yn ôl un cyfrannwr mae’r swm yn “garreg filltir anferthol”.
O’r holl wefannau Cymraeg eu hiaith ar y we, mae’n debyg mae’r Wicipedia Cymraeg sy’n cael y mwyaf o ddefnydd, gyda channoedd o filoedd o dudalennau’n cael eu hagor bob mis.
Yn cyfrannu at waith y wefan mae mudiadau Wici Môn a Wici Caerdydd sy’n ymgynnull a’n annog eu haelodau i gyfrannu erthyglau i’r wefan.
“Cyffrous iawn”
Mae cyrhaeddiad y garreg filltir yn cyd-daro â chyfarfod cyntaf ‘Grŵp Defnyddwyr Wicipedia Cymru’ fydd yn cael ei gynnal yr wythnos hon.
Dyma’r grŵp cyntaf yng Nghymru i gael ei gydnabod gan Wikimedia – sefydliad elusennol sydd yn annog twf gwefan Wicipedia ym mhob iaith.
“Mae cyrraedd 100,000 o erthyglau’n garreg filltir anferthol, mae cael ein cydnabod fel grŵp swyddogol o fewn y teulu Wicimedia hefyd yn anferthol,” meddai Robin Owain, Rheolwr Cymru Wikimedia UK.
“Mae cyflawni hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol – cartref Wicipedia Cymru – yn gyffrous iawn ac yn gosod cynsail cryf a chadarn i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”