Mae dau chwaraewr rygbi o Ogledd Iwerddon wedi’u cael yn ddieuog o dreisio dynes.

Parodd achos Paddy Jackson a Stuart Olding naw wythnos, ac fe ddaeth y rheithgor i benderfyniad ar ôl llai na phedair awr.

Roedden nhw wedi’u cyhuddo o dreisio’r ddynes mewn eiddo yn ne Belfast yn 2016.

Cafwyd Paddy Jackson yn ddieuog hefyd o ymosod yn rhywiol.

Mae’r ddau yn chwarae i ranbarth Ulster.