Mae aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd canghennau lleol o’r Urdd yn colli ei nawdd o achos toriadau ariannol.
Mae’r cyngor sir eisoes wedi dweud ei fod yn gorfod cau ei glybiau ieuenctid, yn ogystal â thorri nawdd y Ffermwyr Ifanc yn Eryri a Meirionnydd yn gyfan gwbl.
Dywed Mair Rowlands, dirprwy arweinydd y cyngor, wrth golwg360 fod yr Urdd yn Eryri a Meirionydd yn mynd i golli bron i £30,000, sef yr un swm ag y mae’r ffermwyr ifanc yn ei golli.
“Mae’r Ffermwyr Ifanc rhwng Eryri a Meirionnydd yn [colli] yn agos at £30,000 ac mae’r Urdd yn cael yr un faint o nawdd,” meddai.
Ar hyn o bryd mae Clwb Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn derbyn grant blynyddol o £20,000 gan y cyngor, ac Eryri’n derbyn £16,000.
“Does yna ddim nawdd i’r clybiau ieuenctid, jyst bod ni’n ail-fodelu’r gwasanaeth, bydd dal gweithgaredd ymhob cymuned, ond dim ar ffurf draddodiadol clwb.”
“Penderfyniad anodd iawn”
Roedd Mair Rowlands yn cydnabod bod y penderfyniad yn un “anodd iawn”.
“Mae lot o drafodaeth wedi bod ar y mater ers dros ddwy flynedd yn ymgynghoriad Her Gwynedd lle roedden ni’n edrych ar doriadau ar draws holl wasanaethau’r Cyngor,” meddai.
“Wnaeth y Cyngor y penderfyniad i dorri cyllideb y gwasanaeth ieuenctid o £270,000 sy’n golygu mai £700,000 sydd gan y gwasanaeth ieuenctid i fod yn darparu gwasanaeth.
“Mae yna ddwy flynedd o waith wedi digwydd wedyn yn trafod gyda phobol ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth ar hyn o bryd a’r [rhai] sydd ddim yn defnyddio’r gwasanaeth achos dim ond 25% o bobol rydan ni’n cyrraedd, mae hynna yn debyg yn dda yng Nghymru ond dw i ddim yn meddwl bod e’n ddigon da.
“Rydyn ni eisiau cyrraedd mwy o bobol ifanc ac mae’r model rydyn ni wedi penderfynu arno fo yn trio cynnal y gwasanaeth, gwneud o’n gynaliadwy i’r dyfodol, dal darparu gwasanaeth i bobol ifanc ond yn gorfod gwneud hynny yn amlwg wrth wynebu’r heriau ariannol sy’n wynebu pob un cyngor, dim jyst ni sydd yn y sefyllfa yma.”
Mae’r cyngor wedi cytuno i ariannu gwerth naw mis o grant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond wedi hynny bydd y grant Gwasanaethau Ieuenctid yn dod i ben.