Bydd amgueddfa yn yr Alban yn newid ei henw o McManus i McMenace er mwyn dathlu pen-blwydd comic yn 80 oed.
I nodi’r garreg filltir yn hanes y Beano, bydd amgueddfa’r McManus yn Dundee yn adrodd stori sefydlu’r comic sy’n llawn hanesion yr hogyn drwg enwog Dennis The Menace.
“Mae Dundee yn gartref i’r Dandy a Beano, ac felly i ni nid oes partner gwell na’r McManus i ddathlu ein carreg filltir,” meddai Mike Stirling, Pennaeth Beano Studios Scotland.
“Bydd yr arddangosfa yn rhoi cipolwg i gefnogwyr o hanes y comic ac yn arddangos cymeriadau gwrthryfelgar a hwyliog y comic ar hyd yr oesoedd, ac yn dangos sut maen nhw’n dal i gysylltu â phlant heddiw.”