Bydd ymgyrch sy’n ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at broblemau iechyd meddwl cenedlaethol yn parhau am dair blynedd arall.
Mae ‘Amser i Newid Cymru’ wedi sicrhau £960,262 gan Lywodraeth Cymru a Comic Relief.
Ers ei sefydlu yn 2012, mae ‘Amser i Newid Cymru’ wedi ceisio meithrin agweddau llawer mwy cadarnhaol tuag at bobl â phroblemau iechyd meddwl.
“Mae’r arian hwn yn ymrwymiad arwyddocaol i barhau â gwaith gwrth-stigma yng Nghymru mewn iechyd meddwl a bydd yn ein galluogi i gynnal momentwm y symudiad a sicrhau bod y gwaith yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn yn cyfrannu tuag at newid hyd yn oed yn fwy ar lefelau unigolyn, lleol a chenedlaethol,” meddai Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru.
“Y tro hwn, byddwn yn canolbwyntio ar weithio gyda dynion – sy’n ei chael hi’n anoddach siarad am iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn gallu gweithio’n fwy dwys gyda chyflogwyr lle gwyddom y gall effeithiau stigma fod yn niweidiol iawn.”