Mae ditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth mewn cartref gofal preifat yn Abertawe, wedi cyflwyno ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Ym mis Awst, canfu adolygiad fod Gower Lodge yn Nhre-Gwyr, yn “oer, anniogel a brwnt”.

Ers hynny, mae Gower Lodge wedi newid ei enw i Cae Deri ac mae’r cwmni sy’n ei reseg, Tracscare Limited, wedi newid ei enw i Accomplish Group.

Mae bellach wedi dod i’r amlwg fod dau gartref arall sy’n cael eu rhedeg gan y cwmni yn Lloegr yn destun hymchwiliad yn dilyn marwolaethau dau breswylydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod wedi cyflwyno ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron fel rhan o ymchwiliad i’r gofal a ddarperir yn Gower Lodge.

Mae’r ffeil yn ymwneud â chwe aelod o staff a gafodd eu cyfweld dan rybudd.

Roedd Gower Lodge yn darparu cefnogaeth a llety i bobol ag anableddau dysgu hynod heriol ac anghenion iechyd meddwl cymhleth ac anghenion eraill.

Cafodd pob un o’r 12 o drigolion eu symud allan ar ôl i archwiliad ym mis Awst 2017 ddatgelu pryderon ynghylch gwaith adeiladu sy’n effeithio ar eu diogelwch a’u lles.