Mae’r bwlch cyflog rhwng dynion a merched ar ei fwyaf pan fydd menyw yn cyrraedd 50, meddai cynghres undebau llafur, y TUC.
Ar gyfartaledd, bryd hynny, mae dyn yn derbyn £8,400 y flwyddyn yn fwy na dynes am wneud yr un gwaith.
Ac mae menywod sy’n gweithio’n llawn amser yn cael eu talu llai na dynion ar bob cam o’u gyrfa – o’r adeg y maen nhw’n troi 18, meddai’r ymchwil.
Mae’r ferch 18 i 21 oed sy’n gweithio’n llawn amser yn dechrau ei gyrfa dan anfantais ariannol, gan ennill £1,845 yn llai na’i chyfoedion gwrywaidd.
Mae’r bwlch yn ymestyn i fwy na £2,300 ar gyfer pobol ifanc 22 i 29 oed, ac mae’r bwlch yn lledu o £3,670 y flwyddyn yn 30 ord, i £7,400 y flwyddyn i fenywod yn eu 40au.
Yn ôl y TUC, mae hyn yn adlewyrchu effaith cyfnod mamolaeth, pan mae menywod yn dychwelyd i’r gwaith i swyddi â thâl is neu’n rhan amser.