Mae Cymru’n wynebu brwydr tros ddemocratiaeth o ganlyniad i Brexit, meddai arweinydd Plaid Cymru ar drothwy cynhadledd wanwyn ei phlaid.
Cyn y bydd yn traddodi ei haraith gerbron aelodau yn Llangollen yn ddiweddarach heddiw, mae wedi dweud mai “codi cenedl newydd” yw ei nod.
Mae’r modd y mae gwleidyddion San Steffan yn bwriadu “cipio pŵer” yn ôl yn ystod ac wedi proses Brexot, yn bygwth datganoli, meddai wedyn.
Yn ei haraith, mae disgwyl iddi sôn bod angen “cymryd rheolaeth”.
“Rydyn ni eisie i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, oherwydd rydyn ni’n credu mai’r bobol yma sy’n gwybod orau beth sydd er lles eu gwlad eu hunain.
“Egwyddor hollbwysig i ni wrth i broses Brexit ddatblygu, yw bod yn rhaid i bwerau dros feysydd datganoledig ddychwelyd i Gymru.
“Ni ddylen nhw gael eu cipio gan San Steffan o gwbwl. Dyna mae cymryd rheolaeth yn ôl yn ei olygu i Gymru.”