Mae nai un o filwyr enwocaf y Rhyfel Byd Cyntaf wedi ennill gwobr am ei gyfraniad i fywyd Cymru.
Fe gafodd Gerald Williams o’r Ysgwrn, Trawsfynydd, ei anrhydeddu â Gwobr Dewi Sant mewn seremoni yn y Senedd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Mawrth 22).
Mae’r gŵr 83 oed wedi ymroi trwy’i fywyd i gadw’r cof am Hedd Wyn yn fyw, a bellach mae ei gartref wedi’i droi yn ganolfan i ymwelwyr gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Fe gadwodd y drws yn agored ers 1954, gan gynnau tân a chroesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd yno, yn rhad ac am ddim.
Mae Gerald Williams yn dal i wirfoddoli yn y ganolfan ers i’r Parc brynu’r Ysgwrn ar gyfer y genedl yn 2012.
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans a fu farw ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos yn unig cyn Eisteddfod Genedlaethol 1917, pan enillodd y Gadair am ei awdl ‘Yr Arwr’.
Wrth gyflwyno’r wobr neithiwr, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod Gerald Williams “wedi gweithio’n ddiflino am dros 60 mlynedd i gadw hanes bywyd ac etifeddiaeth ei ewythr yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
“Heb ymrwymiad ac ymroddiad Gerald, byddai’r darn hynod hwn o’n hanes, ein diwylliant a’n iaith wedi ei golli,” meddai.