Mae stryd yng nghanol dinas Casnewydd yn dal i fod ar gau, ddiwrnod ar ôl i dân gynnau mewn adeilad gwag.
Roedd yn rhaid i’r heddlu wacáu adeiladau cyfagos ac roedd bron i 40 o ddynion tân wrthi’n ceisio mynd i’r afael â diffodd y tân yn Lower Dock Street ar un adeg ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 20).
Mae Stryd Emlyn ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Kingsway a Ffordd Wysg (A4042), ac mae’r drefn hon yn effeithio hefyd ar Lower Dock Street ar ei chyffordd â Kingsway.