Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y bydd Pab Ffransis yn dod wyneb yn wyneb â dioddefwyr cam-drin rhywiol pan fydd yn ymweld ag Iwerddon yr haf hwn.
Fe fydd y Pab, 81, yn cyrraedd dinas Dulyn ddydd Sadwrn, Awst 25, gan gymryd rhan mewn gwyl ym Mharc Croke.
Bydd hefyd yn gweinyddu’r offeren ym Mharc Phoenix ddydd Sul, Awst 26, yn ystod yr ymweliad cyntaf â’r wlad gan bennaeth yr Eglwys Gatholig ers bron i 40 mlynedd.
Mae’r Pab wedi ymddiheuro am frifo teimladau dioddefwyr yn Chile ar ôl mynnu nad oedd unrhyw dystiolaeth yn erbyn esgob a gyhuddwyd o orchuddio cam-drin rhywiol yn y wlad honno.