Mae’r dyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y ffrwydriadau sydd wedi lladd dau ac anafu pedwar o bobol eraill yn Austin, Tecsas, wedi lladd ei hun.
Roedd yr awdurdodau wedi dod o hyd iddo mewn gwesty ar Interstate 35 yn Round Rock. Ond, pan sylweddolodd yntau fod yr heddlu’n cau amdano, fe daniodd ddyfais ffrwydrol, a’i chwythu ei hun i fyny.
Mae dinas Austin wedi cael ei hysgwyd gan bedwar digwyddiad yn ymwneud â bomiau a ffrwydron ers Mawrth 2 eleni.
Ond er bod y digwyddiad diweddaraf drosodd, mae’r heddlu yn rhybuddio y gallai fod rhagor o fomiau – heb eu ffrwydro – o gwmpas y lle o hyd.