Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio pobol i beidio â chael eu temtio i fynd ar y gwefannau cymdeithasol i ddyfalu amgylchiadau damweiniau a digwyddiadau trist.
Fe ddaw’r rhybudd – ar gyfri’ Twitter y llu – yn dilyn y damwain drasig yn Aberteifi ddechrau’r wythnos, pan fu farw merch ddwyflwydd oed pan lithrodd car i mewn i’r afon yn y dref.
Mewn neges ar eu cyfrif Twitter, mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw’n “ymwybodol” o sylwadau ar draws y cyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw’n cadw llygad arnyn nhw. Roedd pob math o straeon wedi ymledu ynglyn â sut a phwy a phryd y cyrhaeddodd y car Aberteifi, pwy oedd yn ei yrru, a phwy oedd ar fai am farwolaeth y ferch fach.
“Bydd negeseuon a ystyrir yn faleisus yn cael eu cofnodi ganddon ni,” meddai’r rhybudd wedyn, “ac efallai y byddwn ni’n cymryd camau pellach yn erbyn y rheiny.”
Daeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i farwolaeth Kiara Moore o Landysul, merch ddwyflwydd oed a fu farw wedi i gar lithro i mewn i afon Teifi.