Fe fydd dioddefwyr a goroeswyr y pedwar ymosodiad brawychol yn Llundain y llynedd yn cael eu cofio mewn llyfrau coffa digidol.
Bydd y rhai sy’n dymuno ysgrifennu neges yn gallu gwneud hynny mewn cyfrol o ‘obaith’ yn Neuadd y Ddinas o fory ymlaen – flwyddyn union ers i Khalid Masood yrru i ganol cerddwyr ar bont Westminster cyn trywanu a lladd y swyddog heddlu Keith Palmer.
Fe fydd y cyhoedd hefyd yn gallu anfon negeseuon electronig i’w cynnwys yn y llyfr, a hynny tan fis Mehefin.
ydd aelodau’r cyhoedd yn gallu anfon negeseuon – a fydd yn parhau tan fis Mehefin – gan ddefnyddio #LondonUnited ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd eu geiriau yn cael eu taflunio i fap o’r brifddinas.
Bydd y geiriau #LondonUnited i’w gweld ar adeilad Senedd San Steffan, ar Bont Llundain, Mosg Finsbury Park a gorsaf danddaearol Parsons Green.