Mae ymchwiliad yn parhau i geisio canfod pam y plymiodd un o awyrennau’r Red Arrows i’r ddaear yn y Fali yn Ynys Mon brynhawn ddoe.
Fe gafodd peiriannydd ei ladd yn y digwyddiad, ac mae’r peilot yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae llygad dystion yn dweud mai dim ond un person a ddaeth allan o’r awyren Hawk cyn iddi daro’r ddaear a mynd ar dân.
Mae’r RAF wedi disgrifio’r digwyddiad fel “damwain drasig”.
Roedd yr awyren yn hedfan o’r Fali yn ôl i RAF Scampton, Swydd Lincoln – lle mae’r pencadlys – pan ddigwyddodd y ddamwain.