Mae nifer y bobol ym myd gwaith wedi cyrraedd y ffigur uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1971, tra bod cyflogau ar i fyny.
Fe gynyddodd cyflogaeth yng ngwledydd Prydain o 168,000 yn ystod y chwarter hyd at Ionawr eleni, nes cyrraedd 32.2 miliwn.
Ond fe fu cynnydd hefyd o 24,000 yn nifer y bobol ddi-waith, i 1.45 miliwn, yn dilyn naid debyg yn y chwarter blaenorol.
Mae nifer y bobol ddi-waith 127,000 yn is nag yr oedd flwyddyn yn ôl, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), ac mae ar gofnod isaf erioed ar gyfer dynion 25 i 34 oed.
Mae’r nifer o bobl a welwyd yn economaidd anweithgar, gan gynnwys myfyrwyr, y rheini sydd ar absenoldeb salwch tymor hir, a ymddeolwyd yn gynnar neu sydd wedi rhoi’r gorau i chwilio am waith, wedi gostwng 136,000 i 8.7 miliwn yn y chwarter diweddaraf, gan roi cyfradd o 21%.
Dyma’r gostyngiad chwarterol mwyaf am fwy na phum mlynedd.