Mae neges a gafodd ei rhoi mewn potel yn ystod mordaith o Gaerdydd i Indonesia 103 o flynyddoedd yn ôl wedi cael ei darganfod yn Awstralia.
Mae lle i gredu bod y neges a’r botel wedi cael eu taflu i mewn i gefnfor India wrth i’r criw hwylio o Gaerdydd i Makassar. Cawson nhw eu darganfod ar Wedge Island ger Perth yng ngorllewin Awstralia, ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi bod yno ers 102 o flynyddoedd.
Daeth Tonya Illman o hyd i’r botel a’r neges ar Ionawr 21 eleni, a daeth cariad ei mab o hyd i’r neges – a oedd wedi ei hysgrifennu mewn Almaeneg – wrth dywallt y tywod allan.
Fe wnaeth hi ddarganfod yn ddiweddarach fod miloedd o poteli wedi cael eu taflu i’r môr – a phob neges yn cynnwys y dyddiad, cyfeirnod y llongau a’u cyrchfannau.
Fel rhan o arbrawf, roedd y neges yn gofyn i bwy bynnag fyddai’n dod o hyd iddi i gofnodi ymhle roedd y botel a phryd y daethpwyd o hyd iddi.
Hwyliodd y llong Almaenig, Paula, o Gaerdydd i Indonesia am y tro cyntaf yn 1886. Mae’r holl fanylion wedi cael eu cadarnhau gan Asiantaeth Hydrograffig a Morwrol Ffederal yr Almaen.
Mae’r botel bellach mewn amgueddfa yng ngorllewin Awstralia, a bydd yn aros yno am ddwy flynedd.