Bydd masnach rhwng Ewrop a Phrydain yn “fwy cymhleth ac yn ddrutach” yn sgil Brexit, yn ôl Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk.

“Dyma fydd hanfod Brexit” rhybuddiodd wrth amlinellu’r weledigaeth am berthynas yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig wedi Mawrth 29, 2019.

Mae’n debyg bod Brwsel yn gobeithio cadw’r berthynas rhwng y ddwy ochr “mor glos ag sy’n bosib” ond mae disgwyl “goblygiadau economaidd negyddol”.

“Dydy’r safiad positif yma ddim yn newid y ffaith y byddwn yn ymddieithrio,” meddai Donald Tusk mewn cynhadledd i’r wasg.

“Ni fydd cytundeb rhyngom yn gwneud masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn llyfnach a’n ddidrafferth.”

Y weledigaeth

  • Cytundeb masnach rydd sy’n sicrhau dim tariffau ar nwyddau
  • Rhyddid i Ewrop a Phrydain bysgota yn nyfroedd ei gilydd
  • Os fydd Prydain yn y farchnad sengl, ni fydd modd cydymffurfio â rhai agweddau yn unig