Er bod disgwyl i’r tymheredd godi i tua 7 gradd C mewn rhannau helaeth o Gymru heddiw, mae rhybudd melyn am rew mewn grym ledled Cymru a’r rhan fwyaf o Brydain tan 11 fore yfory.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am beryglon ffyrdd llithrig, wrth i law ddisgyn ar ffyrdd sydd wedi eu gorchuddio ag eira a hwnnw’n rhewi.
“Fydd hi ddim yn teimlo mor oer â’r hyn a fu, ond gallai’r potensial am rew olygu y bydd ffyrdd yn llithrig iawn,” meddai Greg Dewhurst o’r Swyddfa Dywydd.
Mae Trenau Arriva Cymru yn dal i gynghori pobl i beidio â theithio os nad oes raid iddyn nhw, gyda rhybudd ar eu gwefan y bydd llawer o’u gwasanaethau wedi eu canslo dros y penwythnos.
Daw’r meirioli ar ôl y cychwyn oeraf erioed i fis Mawrth – cofnodwyd tymheredd o minws 5.2 gradd C ym Mharc Bryn Bach, Tredegar, ddydd Iau.
Anhrefn ar ffyrdd
Mae’r dyddiau diwethaf wedi creu anhrefn ar ffyrdd ledled Prydain, ar ôl i gannoedd orfod treulio nos Iau yn eu ceir o dan luwchfeydd eira.
Un o’r ddau le a gafodd eu taro waethaf ledled Prydain oedd Sant Athan ym Mro Morgannwg, lle cafodd hanner metr o eira ei fesur.
Mae traffordd yr M62 yng ngogledd Lloegr bellach wedi ailagor ar ôl bod ynghau am fwy na diwrnod.
Mae Gweriniaeth Iwerddon hefyd wedi cael ei tharo â’r eira gwaethaf mewn 35 mlynedd.