Mae ymgyrchydd lleol yn cyhuddo Cyngor Abertawe o drefnu gŵyl newydd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni gyda’r bwriad o “ddisodli” digwyddiad a oedd eisoes yn cael ei drefnu gan drigolion lleol y ddinas.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gyngor Sir Abertawe gynnal yr ŵyl, Croeso Abertawe, gyda’r dathliadau’n ymestyn dros gyfnod o dri diwrnod rhwng Mawrth 1 a Mawrth 3.

Ond yn ôl un o drefnwyr Gŵyl AberDewi, Robin Campbell, mae’n honni bod yr ŵyl newydd yn ymgais fwriadol i “ddisodli” Gŵyl AberDewi, sydd wedi’i threfnu gan gyfuniad o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg y ddinas dros y tair blynedd diwethaf.

“Maen nhw’n neud e’n subtle iawn,” meddai wrth golwg360. “Maen nhw wedi disodli Aberdewi gyda Gŵyl Croeso…

“So nhw moyn gweld pobol yn enjoio eu hunain yn gorymdeithio gyda baneri Cymraeg. Maen nhw moyn ‘gŵyl plastig daffodils.’”

Agwedd “wrth-Gymreig”

Mae Robin Campbell hefyd yn feirniadol o’r angen i bobol a sefydliadau gofrestru er mwyn bod yn rhan o’r orymdaith a fydd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl.

Mae’n credu bod y Cyngor wedi penderfynu gwneud hyn oherwydd eu bod nhw’n teimlo bod gorymdeithiau’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn ormod o “brotest”.

“Mae’r cyngor yn dweud bod y gorymdaith yn ‘brotest’, ond os taw protest yw e, wel diffiniad o brotest yw eich bod chi’n protestio yn erbyn rhywbeth,” meddai eto.

“Maen nhw [Cyngor Abertawe] jyst yn wrth-Gymreig. Maen nhw jyst moyn dinistrio beth ydyn ni wedi’i greu dros y tair blynedd diwethaf.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Abertawe am ymateb.