Mae undebau ac arweinwyr busnes wedi croesawu araith gan Arweinydd y Blaid Lafur yn amlinellu safiad y blaid ar Brexit.
Yn ei araith mi wnaeth Jeremy Corbyn alw am “berthynas newydd a chryf” gyda’r farchnad sengl, ac mi bwysleisiodd yr angen am undeb tollau yn dilyn Brexit.
Mae undebau wedi canmol yr arweinydd gan ddweud y byddai ei gynlluniau yn amddiffyn swyddi a diwydiannau yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl Ysgrifenyddion Cyffredinol y GMB a Chyngres yr Undebau Llafur, Tim Roache a Frances O’Grady, mae Llafur yn “dangos arweinyddiaeth glir”, ac mae’r araith yn “gam ymlaen”.
O ran cyrff sy’n cynrychioli busnesau, mae llawer wedi croesawu sylwadau Jeremy Corbyn – yn bennaf ei ymrwymiad i undeb tollau.
Er hynny mae ambell sefydliad wedi ymateb mewn ffordd lai ffafriol gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn nodi bod yna gwestiynau ynglŷn â Brexit “sydd o hyd heb gael eu hateb”.