Mi fydd isafswm ar bris alcohol o 50c yr uned yn cael ei gyflwyno yn yr Alban eleni – y wlad gyntaf i gyflwyno polisi o’r fath.
Bydd yr isafbris yn dod i rym ar Fai 1, ac mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu ei gyflwyno ar ôl i adroddiad ddangos bod 74.3% o’r 130 o bobol a sefydliadau a gafodd eu holi fel rhan o ymgynghoriad, o blaid cyflwyno isafbris o 50c yr uned.
Mae Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, Shona Robinson, wedi dweud y bydd y polisi newydd hwn yn “achub miloedd o fywydau”.
“Gydag alcohol yn cael ei werthu mewn rhai llefydd heddiw am ddim ond 16c yr uned, mae’n rhaid inni herio’r nifer fawr o ddiodydd rhad a chryfion sy’n achosi cymaint o niwed i nifer o deuluoedd,” meddai.
50c “ddim yn ddigon”
Ar y llaw arall, mae rhai sefydliadau’n feirniadol o’r isafbris hwn, gan ddweud y byddai isafbris o 70c wedi bod yn fwy “effeithiol”.
Yn ôl Cymdeithas Frenhinol Caeredin, fe gafodd y cynnig o 50c ei gyflwyno gyntaf yn 2016, ac o ystyried lefelau chwyddiant a’r cynnydd mewn prisiau ers hynny, fe ddylai’r isafbris fod o leiaf 60c neu 70c.
“Fe fydd cynnydd o 70c yn adlewyrchu mwy o uchelgais,” medden nhw, “ac fe fydd hefyd yn derbyn mwy o gefnogaeth ac yn cael mwy o effaith ar lefel yr alcohol sy’n cael ei hyfed…”
Newidiadau i Gymru
Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno isafbris o 50c ar bob uned o alcohol hefyd.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno yn ddiweddar gan Grŵp Ymchwil Alcohol ym Mhrifysgol Sheffield, mae poblogaeth Cymru yn prynu 50% o’u halcohol am lai na 55c yr uned.