Mae gyrrwr wedi cyfaddef lladd tri llanc yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad car.

Yn ystod gwrandawiad yn yr Old Bailey fe blediodd Jaynesh Chudasama, o Hayes yng ngorllewin Llundain yn euog i dri chyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Roedd Jaynesh Chudasama, 28, yn gyrru Audi a darodd yn erbyn y tri ffrind ar Lon Shepiston Lane yn Hayes.

Bu farw Harry Louis Rice, 17, George Toby Wilkinson a Josh McGuinness, y ddau yn 16 oed, yn y fan a’r lle.

Roedd y tri llanc ymhlith grŵp o ffrindiau oedd yn cerdded i glwb pêl-droed tua 8.40yh ar 26 Ionawr.

Wrth agor yr achos, dywedodd Crispin Aylett QC  ar ran yr erlyniad, bod Jaynesh Chudasama wedi bod yn yfed adeg y gwrthdrawiad a’i fod mwy na dwywaith dros y lefel cyfreithiol.

Mae disgwyl i Jaynesh Chudasama gael ei ddedfrydu ar 9 Mawrth.