Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actor Trefor Selway yn dilyn ei farwolaeth yn 86 oed.
Roedd yn athro ac yn brifathro, yn actor amlwg ar lwyfan a theledu, ac yn ffigwr blaenllaw yn nyddiau cynnar y theatr Gymraeg.
Roedd o a’i ddiweddar frawd, Alwyn, wedi’u magu ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, cyn iddo symud i Eglwysbach, Dyffryn Conwy, lle treuliodd y rhan helaethaf o’i oes.
Ar y sgrîn, roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Evan yn y gyfres Hafod Haidd (1998), ac am ei ran yn y ffilm Oed yr Addewid (2002) yn y Gymraeg, a Storms of Justice (1988) a Wild Justice (1994) yn Saesneg.
Roedd hefyd wedi bod yn y cyfresi Palmant Aur ac A Mind To Kill.
Teyrngedau
Mae teyrngedau’n dechrau ymddangos ar wefan gymdeithasol Twitter.
Cyfraniad mawr a chefnogwr triw i fyd adloniant a’r theatr yng Nghymru. Diolch am dy gyfraniad Trefor – Nos da! Nos da! Ffalabalam-ba-dŵdl-amba-dê!
— cefin roberts (@cefinroberts) February 25, 2018
Ac fe ddaeth y neges hon gan y telynor Dylan Cernyw:
Dyn arbennig! Wedi rhannu sawl llwyfan yn ei gwmni. Jôcs a lot o chwerthin. cofion at Liz, Alwen ar teulu. Nôs da Trefor. X
— Dylan Cernyw (@DylanCernyw) February 25, 2018