Mae’r actores Emma Chambers wedi marw’n 53 oed.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus am bortreadu’r cymeriad ‘Alice’ yn The Vicar of Dibley ochr yn ochr â Dawn French, a’i chymeriad yn enwog am fethu â deall y jôc ar ddiwedd pob pennod.

Roedd hi hefyd wedi chwarae’r cymeriad Honey, cariad Spike (Rhys Ifans) yn Notting Hill.

Mewn datganiad, dywedodd ei hasiant John Grant ei fod yn “drist” o gyhoeddi’r newyddion.

“Ar hyd y blynyddoedd, roedd Emma wedi creu llu o gymeriadau ac roedd ganddi gorff rhyfeddol o waith. Daeth hi â chwerthin a llawenydd i nifer, a bydd colled fawr ar ei hôl.