Mae wedi dod i’r amlwg bod ceir gweinidogion y llywodraeth wedi gwneud dros 100 o deithiau i gludo dogfennau yn unig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos bod ceir sy’n cael eu defnyddio fel arfer i gludo gweinidogion Llywodraeth Cymru o un lle i’r llall, wedi cael eu defnyddio i gludo dogfennau 53 o weithiau yn 2015.
Yn 2016, cafodd y ceir eu defnyddio 29 o weithiau i hebrwng dogfennau ac yn 2017, roedd y ffigwr i lawr i 27.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r ceir yn cael eu defnyddio weithiau i gludo dogfennau sensitif a chyfrinachol pan fo angen gwneud hynny ar frys.
Mae gan y Llywodraeth 12 car – Volvo saloons – ac mae’n cyflogi 12 gyrrwr – roedd hyn ar gost o £836,000 rhwng 2016/17 a 2017/18.
Yn ôl y Ceidwadwyr, fe fydden nhw’n cael gwared ar y ceir gweinidogol ac yn annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Janet Finch-Saunders AC dros Aberconwy, fod defnyddio’r ceir at bwrpas cludo dogfennau yn “wastraffus ac yn sarhad i’r trethdalwr.”
“Hyd y gwn i, mae holl aelodau cabinet Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio e-byst ac yn gallu gyrru, mynd ar gefn beic neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly does dim esgus am y math yma o ymddygiad esgeulus,” meddai.
Angen cludo “papurau cyfrinachol”
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd Parhaol y Llywodraeth fod angen i “weinidogion gael eu diogelu wrth ymgymryd â’u dyletswyddau cyhoeddus ac mae teithio mewn ceir swyddogol gyda gyrwyr proffesiynol yn lleihau risg diogelwch”.
“Yn aml, mae disgwyl i weinidogion fynd i sawl digwyddiad mewn un diwrnod. Yn ystod y teithiau hyn, mae gweinidogion yn parhau i weithio ac maen nhw’n cael mynediad at wybodaeth gyfrinachol, gallan nhw ddim gwneud hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus nac ar ffyrdd eraill o deithio.
“Mae ceir gweinidogol yn cael eu defnyddio weithiau i ddelifro papurau sensitif a chyfrinachol i weinidogion pan fo angen gwneud hynny ar frys. Mae defnydd ceir y Llywodraeth at y pwrpas hwn yn parhau i ddisgyn bob blwyddyn.”