Mae’r Seiri Rhyddion wedi cael eu cam-bortreadu nes bod yna “stigma” ynglyn â bod yn aelod, meddai bos y sefydliad yn Lloegr.

Dyna pam y maen nhw’n rhedeg cyfres o hysbysebion yn y papurau Llundeinig ac yn cynnal nosweithiau agore er mwyn profi nad ydi hi’n gymdeithas gudd.

Pennawd hysbysebion yr United Grand Lodge yw ‘Digon yw digon’, ac maen nhw’n dadlau fod Seiri Rhyddion wedi’u camddehongli.

Mae’r prif weithredwr, Dr David Staples, hefyd wedi ysgrifennu at y Comisiwn Hawliau Dynol ynglyn â’i bryderon fod y 200,000 o aelodau yn diodde’ gwahaniaethu annheg.

“Ddylai ein haelodau ni ddim gorfod delio â’r stigma yma,” meddai. “Fasa’r un sefydliad arall yn derbyn hyn, felly pam ddylai’r Seiri Rhyddion?

“Mae’n iawn fod gan bobol gwestiynau ynglyn â’r Seiri, felly dyna pam y byddwn ni’n cynnal sesiynau cwestiwn ac ateb ledled y wlad.”

Y llynedd, fe gododd y Grand Lodge fwy na £33m at achosion da, meddai David Staples.