Mae cwmni lladd-dai Dunbia sydd â safleoedd yng ngorllewin Cymru, wedi ymateb i adroddiadau am golledion swyddi posib, gan eu galw’n “wallus”.
Maen nhw wedi ymateb i stori ‘egsgliwsif’ ym mhabur lleol y Cambrian News y gallai swyddi gael eu colli o safle Dunbia yn Llanybydder wedi i’r cwmni gael ei brynu gan Dawn Meats, sydd â safle yn Cross Hands.
Mae golwg360 yn deall y gallai swyddi gael eu diogelu trwy symud gweithwyr rhwng dau safle yng Ngheredigion, Felin-fach a Llanybydder – er y gallai hynny fod ar draul y safle yn Felin-fach.
“Cynyddu” nid “gostwng”
Mewn datganiad mae Dunbia wedi dweud bod y nifer y maen nhw’n cyflogi yn debygol o “gynyddu yn hytrach na gostwng” yn sgil buddsoddi.
Er hynny mae’r cwmni hefyd yn dweud eu bod yn adolygu trefn eu ffatrïoedd yng Nghymru.
Dunbia yw prosesydd cig oen mwyaf gwledydd Prydain, ac mae’r cwmni yn cyflogi 615 o bobol ar y safle yn Llanybydder a 176 o bobol yn Felin-fach.
“Hanes hir a balch”
“Mae gennym hanes hir a balch o gyflogi yng Nghymru, ac o gefnogi ffermio yng Nghymru, ac rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny,” meddai llefarydd ar ran Dunbia.
“Ar hyn o bryd mae gennym dros 1,100 o staff yng Nghymru rhwng ein tri safle, ac mae buddsoddi yn debygol o achosi niferoedd i gynyddu yn hytrach na gostwng.”