Cymru yw’r wlad gynta’ yn y Deyrnas Unedig i wahardd pobol dan ddeunaw oed rhag cael tyllau ar gyfer tlysau yn rhai rhannau o’r corff.
Mae deddf newydd yn dod i rym heddiw yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu roi neu drefnu rhoi twll mewn rhannau personol o gyrff plant a phobol ifanc dan 18 oed.
Mae yna 10 rhan benodol o’r corff lle na fydd modd rhoi tyllau gan gynnwys yr organau rhyw, tethau a thafodau. Nod y gyfraith yw diogelu iechyd plant a phobol ifanc.
“Diogelu iechyd a lles”
“Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r gyfraith newydd hon yn sicrhau ein bod ni’n gallu diogelu iechyd a lles plant a phobol ifanc,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.
“Fe all twll yn y tafod arwain at ddifrod parhaol i’r dannedd a’r deintgig, ac fe all achosi chwyddo difrifol yn y geg sy’n gallu effeithio ar anadlu,” meddai Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman.
“Mae llawer o ddeintyddion yng Nghymru wedi gweld cleifion sydd wedi cael niwed parhaol yn dilyn tyllu ac mae timau deintyddol yng Nghymru wir yn croesawu’r gyfraith newydd hon.”