Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymateb i bryderon am gyfradd marwolaethau uchel yn uned frys Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Yn ôl ystadegau gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru bu farw 30.4 o bob 10,000 person aeth i uned frys yr ysbyty yn ystod y deuddeg mis hyd at Hydref 2017 – y gyfradd uchaf yng Nghymru yn 2016-2017.
Ond yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae “nifer” o ffactorau yn gyfrifol am gyfradd marwolaethau uchel yr uned.
Maen nhw’n dadlau eu bod yn gwasanaethu poblogaeth uchel o bobol oedrannus sydd yn fregus, ac mai dyma sydd yn gyfrifol am y ffigur uchel.
Mae llefarydd ar ran y bwrdd hefyd yn dweud bod cynnydd wedi bod yn y nifer o gleifion sy’n cael eu cludo i’r uned gan ambiwlansys, a bod hyn wedi cael effaith ar gyfraddau.
“Annerbyniol”
“Mae’n annerbyniol eich bod yn fwy tebygol o farw mewn uned frys yn Ysbyty Glan Clwyd nag mewn unedau brys eraill,” meddai Aelod Cynulliad Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar sydd wedi mynegi pryderon.
“Dylai bod mesurau arbennig yn gwneud pethau’n well nid yn waeth. Mae cleifion yn haeddu atebion a gweithredu gan weinidogion.”
“Gofal ansawdd uchel”
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal ansawdd uchel, gan gynnwys ymdrechion i wella gofal madredd [sepsis], sydd yn aml yn dechrau yn yr Uned Frys,” meddai Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol y bwrdd, Dr Evan Moore.
“Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr a gwasanaethau eraill er mwyn rheoli derbyniadau i’r ysbyty yn fwy effeithlon, ac i sicrhau trosglwyddiad diogel a sydyn i gleifion yn yr Uned Frys sydd angen mynd i ward.”