Codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yw bwriad llyfryn newydd fydd yn cael ei lansio yn Ynys Môn ddydd Llun (Ionawr 29).
Mae’r llyfryn ‘Croeso i Gymru/ Croeso i’r Gymraeg’ wedi ei anelu at bobol ddi-Gymraeg sy’n symud i’r ynys, a’r nod yw tynnu sylw at yr iaith a’r manteision o’i dysgu.
Menter Iaith Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu’r llyfryn, ac os fydd yn llwyddiannus bydd yn cael ei gyflwyno i ardaloedd eraill Cymru.
Cafodd y llyfryn ei lansio gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan bore ma yng Nghanolfan Iaith, Ysgol Gymuned Moelfre.
“Gwarchod y Gymraeg”
“Gyda nifer o ddatblygiadau economaidd sylweddol ar y gorwel – mae’n bwysig ein bod ni’n paratoi,” meddai Prif Swyddog Menter Iaith Môn, Helen Williams.
“Nid yn unig i warchod y Gymraeg yma ar Ynys Môn ond hefyd i roi cymorth i’r rheiny sy’n symud yma i’w haddysgu am yr iaith a’r diwylliant lleol.”