Does dim sicrwydd y bydd ffermwyr yn derbyn taliadau gan Lywodraeth San Steffan wedi 2020, yn ôl Plaid Cymru.
Mewn llythyr at Simon Thomas, llefarydd y Blaid ar faterion gwledig, mae’r Trysorlys yn dweud nad yw taliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP), wedi’i sicrhau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn unig.
Mae hynny er i’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove, ddweud yr wythnos ddiwethaf’ y bydd ffermwyr yn dal i dderbyn yr un cymorthdaliadau tan o leiaf yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2022.
Ar hyn o bryd, mae’r taliadau yn dod i ffermwyr drwy’r Undeb Ewropeaidd, ond ar ôl Brexit, fe fydd y system yn cael ei throsglwyddo i wledydd Prydain.
Bydd y system bresennol ar waith tan o leiaf 2020 felly ond mae Simon Thomas yn dweud nad oes sicrwydd i ffermwyr wedi hynny.
Mae bellach yn galw am gytuno ar “fframwaith cyffredin” rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig ar faterion amaethyddol ac amgylcheddol er mwyn pennu ar y blaenoriaethau i’r sector wedi Brexit.
Pryder dros gefn gwlad
Rhybuddiodd Simon Thomas y gallai colli’r cymhorthdal arwain at gau ffermydd teuluol, cynyddu prisiau bwyd ac achosi niwed i’r economi wledig.
“Mae’n hanfodol cynnal cyllid i ffermwyr Cymru wedi 2020. Os daw dan Fformiwla Barnett, fel gwariant cyhoeddus arall yng Nghymru, yna bydd ffermwyr Cymru ar eu colled. All Cymru ddim bodloni ar geiniog yn llai o gyllid,” meddai.
“… Rhaid i unrhyw fframwaith ar y cyd gynnwys ymrwymiad i Gymru gael ei chyfran deg o daliadau ffermydd.
“Mae amser yn brin ac y mae’n rhaid i’r llywodraeth gael trefn ar eu cytundeb Brexit. Mae Plaid Cymru yn galw am eglurder er lles ffermwyr Cymru; mae arnynt hwy angen atebion ar frys.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth Prydain.