Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu gorsaf niwclear Wylfa Newydd eisiau datblygu rhagor o dir – ac mae hwnnw’n cynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSA) yng ngogledd Ynys Mon.
Mewn cyfres o hysbysiadau cyhoeddus yr wythnos hon, mae cwmni Horizon yn dweud y byddan nhw’n cynnal cyfarfodydd ledled y sir yn ystod dau fis cyntaf eleni, mewn ymdrech i glywed barn pobol leol am y datblygiad diweddaraf.
Dim ond wedyn, meddai’r cwmni, y bydd yn mynd ati i “fireinio manylion terfynol” y tir sydd ei angen arno er mwyn codi’r atomfa.
Maen nhw’n nodi mai’r hyn y mae’n nhw’n awyddus i’w drafod yw:
- Cynigion i greu neu wella safleoedd tir gwlyb newydd ledled Ynys Môn;
- Y ffaith y byddai’r tair ardal o dir yn ffinio â safle presennol Wylfa Newydd, i’r gogledd ac i’r de-orllewin;
- Mân newidiadau i’r ffiniau tir – ym Mharc Cybi, safle Garej Offer Argyfwng Symudol, a’r rhannau newydd o’r A5025 rhwng y safle a’r Fali.
- Mae Horizon hefyd yn enwi Tre Gof fel tir datblygu – safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Ymgyrchwyr yn “ddrwgdybus”
“Beth sy’n drawiadol yw bod nhw’n cynnal yr holl ymgynghoriadau yma, gyda dal heb unrhyw sicrwydd y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen,” meddai Dylan Morgan, llefarydd ar ran grwp ymgyrchu PAWB (Pobol Atal Wylfa B).
“Y realiti yw, yr unig ffordd all y ddau adweithydd enfawr newydd ʾma gael eu codi yw gyda chyllid cyhoeddus sylweddol o gyfeiriadau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Siapan …”
“A bydde dal rhaid cael buddsoddiad o gyfeiriad y sector breifat. Ond pwy o ddifri sy’n mynd i fuddsoddi yn y pwll du o ynni niwclear yma?
“Maen nhw newydd roi cais cynllunio i Gyngor Ynys Môn ar gyfer gwaith paratoi’r safle, sy’n golygu dinistrio’r safle yn amgylcheddol”, meddai Dylan Morgan wedyn.
“Bydden nhw’n dinistrio cynefinoedd, cloddiau, waliau cerddi a chodi gwair yn helaeth. Pa synnwyr sydd i’r rhain ddechre dinistrio’r safle fel paratoad ar gyfer y prif gais, pan dydyn nhw ddim hyd yn oed os yw’n bosib i gario mlaen?
“Mae’r holl gais cynlluio yn gynamserol, i ddweud y lleiaf.”
Bydd yr ymgynghoriad cyntaf gan Horizon yn cael ei gynnal ar Ionawr 19, a hynny yn Neuadd Goffa Amlwch.