Mae angen gwneud rhagor o ymchwil cyn diwygio unrhyw drefniadau lobïo ym Mae Caerdydd, yn ôl pwyllgor.

Yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad, fe ddylai fod cymaint o dryloywder â phosib ynglŷn â’r ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu dylanwadu yng Nghymru.

Ac un o’i argymhellion yw y dylai cofrestr statudol o lobïwyr gael ei sefydlu, ond nid nes bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu ar sut mae cofrestri’n gweithio mewn mannau eraill o’r Deyrnas Unedig – fel y gall Cymru ddysgu o’u harferion.

Maen nhw hefyd yn credu y dylai rhagor o wybodaeth gael eu casglu am raddfa gweithgaredd lobïo yng Nghymru, cyn gwneud newidiadau i reoliadau lobïo.

Pwysigrwydd bod yn dryloyw

Yn ôl Jayne Bryant, yr Aelod Cynulliad sy’n Gadeirydd y Pwyllgor, mae’r ymchwiliad newydd hwn wedi dangos bod angen i lobïo fod yn rhan o “ddeialog barhaus” mewn democratiaeth sy’n “agored a chysylltiedig”.

“Mae’n amlwg o’r dystiolaeth a gasglwyd nad oes ateb syml i’r cwestiynau o sut i ddiffinio neu rannu gwybodaeth am lobïo”, meddai.

“Mae er budd y cyhoedd i ganfod effaith grwpiau sy’n ceisio dylanwadu ar wleidyddion.

“Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ynglŷn â’r ffordd orau i’r cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth hon ar ôl ei chael.”