Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryder am ddyfodol nifer o swyddi pan fydd swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn cael ei chau yn ddiweddarach eleni.
Mae 42.8% o swyddi Llywodraeth Cymru yn y dref wedi cael eu colli ers 2010, ac mae cynllun ar y gweill i werthu’r adeilad ym Mhenrallt, a symud swyddi i swyddfeydd rhent ger Doc Fictoria.
Mae’r cwymp yn nifer y swyddi’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 18.29%, ac mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “esgeulustra”.
Dim ond 76 o weithwyr sydd yn swyddfa Penrallt erbyn hyn, o’i gymharu â 133 yn 2010, ac mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru beidio â defnyddio’r adleoli fel ffordd o dorri rhagor o swyddi.
‘Canu clychau’
Mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Sian Gwenllian fod cynlluniau Llywodraeth Cymru’n “canu clychau yn lleol, yn enwedig a ninnau eisoes wedi colli llawer mwy o swyddi o’i gymharu â threfi eraill”.
Dywedodd fod gan Blaid Cymru “nifer o atebion cadarnhaol” i wella’r cydbwysedd ledled Cymru, gan gynnwys “deddfu er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus wedi ei rannu’n deg a chytbwys drwy’r wlad i gyd”, a hynny fel rhan o Agenda Cymru Gyfan.
‘Torri costau cyn anghenion cymunedol’
Ychwanegodd: “Byddai’r blaid yn edrych ar greu rhagor o sefydliadau cenedlaethol wedi eu lleoli yn y gogledd gan annog a chynnig cymhelliant i’r sectorau preifat a chyhoeddus ddosbarthu eu swyddi’n fwy gwastad.
“Roedd gan Lywodraeth Cymr ymrwymiad cychwynnol i wasgaru ei weithlu ar draws y wlad gan dargedu gogledd Cymru, y cymoedd a chanolbarth Cymru.
“Sefodd Plaid Cymru yn gadarn tu ôl i’r strategaeth yma gan ein bod yn mynnu bod rhaid i fuddiannau datganoli gael eu rhannu’n deg ymhlith y gwahanol ardaloedd o fewn Cymru.
“Ond yng Nghaernarfon, rydym wedi gweld 57 swydd yn cael eu symud o’r ardal dros saith mlynedd.
“Tra bod nifer y swyddi gweision sifil wedi mynd lawr oherwydd llymder, mae’r cwymp lawer mwy yng Nghaernarfon nag yn genedlaethol ac mewn ardaloedd eraill yn y gogledd.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn rhoi torri costau cyn anghenion cymunedol.”
Hywel Williams yn ategu’r pryderon
Ychwanegodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams: “Mae’n hollbwysig nad yw’r swyddi’n cael eu colli yng Nghaernarfon yn enwedig o gofio bod y dref yn honno wrth galon ardal sydd a nifer uchel o siaradwyr Cymraeg – ac o gofio hefyd uchelgais y Llywodraeth Lafur i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Dylai’r pwyslais fod ar gryfhau yn hytrach na gwanhau economi ardal ble mae’r Gymraeg yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio yn y gweithle.
“Dylai’r Llywodraeth fod yn gweithio tuag at sicrhau swyddi o ansawdd da yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Pa fath o neges sy’n cael ei roi i dref Caernarfon pan fo unig adeilad y Llywodraeth ar werth?”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er mwyn byw oddi mewn i gyllidebau’n gostwng, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau nifer ei staff o fwy na 1100 yn ystod y 7 mlynedd diwethaf.
“Mae mwyafrif y gostyngiadau hyn wedi bod yn ardal Caerdydd gyda’r niferoedd yno wedi lleihau o fwy na 760 o staff.”