Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes oedrannus farw ar ôl aros am bron i bedair awr am ambiwlans – er ei bod hi’n dioddef o boen yn y frest.

Ffoniodd y ddynes 81 oed 999 am oddeutu 8 o’r gloch nos Fawrth, a siaradodd hi â’r gwasanaethau brys eto am 9.47pm.

Ond doedd yr ambiwlans ddim wedi chyrraedd yn Clacton, Swydd Essex am hyd at ddwy awr arall – am 11.46pm.

Bu’n rhaid i barafeddygon dorri i mewn i’w chartref, a daethpwyd o hyd iddi’n anymwybodol, a doedd dim modd ei hachub.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr wedi ymddiheuro wrth ei theulu, gan bwysleisio eu bod nhw “dan y don” dros y dyddiau diwethaf.

Achos arall

Mewn achos tebyg yn Portsmouth, fe fu farw dynes 88 oed wrth aros am saith awr cyn bod ysbyty wedi dod o hyd i wely ar ei chyfer.

Treuliodd Josephine Smalley bum awr mewn ambiwlans a dwy awr ar droli mewn coridor yn Ysbyty’r Frenhines Alexandra.

Bu farw ar Ddydd Calan ar ôl cael trawiad ar y galon a strôc.