Mae perchennog siop lyfrau ym Machynlleth wedi ychwanegu at brotestiadau yng Nghaerdydd ar ôl i Gyngor Llyfrau Cymru agor siop dros dro Nadoligaidd yn y dre’.

Fe ddaeth yn amlwg bod y cwyno wedi gwneud i’r Cyngor newid eu meddwl tros gael siop ‘Gwales; yng Nghaerdydd ond fod y cynllun ym Machynlleth wedi parhau.

Nod y Cyngor, medden nhw, yw rhoi hwb i werthiant llyfrau ond fe ddylen nhw ganolbwyntio ar gefnogi siopau yn hytrach na chystadlu, meddai Diane Bailey, perchennog Siop Lyfrau Penrallt ym Machynlleth, wrth Golwg360

Syniad ‘rhyfedd’

“Yn y pen draw, dosbarthu a chynorthwyo o rhan cyhoeddi yw rôl Cyngor Llyfrau Cymru,” meddai Diane Bailey, sy’n dweud ei bod wedi “gweithio’n galed” ers saith mlynedd i sefydlu ei busnes sy’n gwerthu llyfrau Saesneg a Chymraeg.

“Dw i’n gwybod eu bod yn cefnogi siopau llyfrau, ond nid trwy gael safleoedd gwerthu – yn enwedig corff sy’n derbyn arian y cyhoedd. Busnes ydyn ni.”

Roedd y wraig sy’n cynnal siop lyfrau a chwmni cyhoeddi ym Mae Caerdydd wedi cwyno ar ôl clywed am fwriad y Cyngor i agor y siop dros dro “o fewn canllath” i’w busnes hi.

Fe ddywedodd Hazel Cushion wrth Radio Wales fod y syniad yn un “rhyfedd”. “Fydden ni wedi disgwyl eu bod nhw’n ein cefnogi ni bob cam.”

Hysbysebion

Roedd Diane Bailey’n cwyno hefyd am fod y Cyngor Llyfrau wedi gallu gwario arian mawr ar hysbysebion yn y papur lleol – sydd y tu hwnt i fusnes bach fel nhw.

Â’r diwydiant bellach yn “ffynnu” mae Diane Bailey cynghori Cyngor Llyfrau Cymru i wneud “ymchwil ac ymgynghori’n fwy gofalus” ac i geisio elwa op “arbenigedd gwerthwyr llyfrau”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru am ymateb.

Pan dorrodd cylchgrawn Golwg y stori gynta’ ym mis Tachwedd, dyma’r ymateb swyddogol: “…gobeithia’r Cyngor Llyfrau mai canlyniad yr arbrawf hwn yn y pen draw fydd sicrhau mwy o bresenoldeb i lyfrau Cymraeg mewn amryw o leoliadau gwahanol drwy gydol y flwyddyn.”