Mae ymgyrchwyr tros addysg Gymraeg yn ofni bod ymgais i danseilio cynllun i roi cartre’ i ysgol Gymraeg newydd yn y Trallwng.
Rhan allweddol o’r cynllun yw chwalu adeiladau hen Ysgol Maesydre er mwyn creu safle i’r Ysgol Gynradd Gymraeg sydd newydd gael ei sefydlu yn y dre’.
Ond mae cais wedi ei wneud i’r corff cadwraeth Cadw am restru’r adeilad yn un hanesyddol o bwys – cam a fyddai’n rhwystro’r cynllun addysg Gymraeg.
‘Ymgais fwriadol’
“Mae yna gais wedi mynd i Cadw ond dyden ni ddim yn gwybod gan bwy,” meddai un o’r cynghorwyr lleol, Elwyn Vaughan.
“Dw i’n amau ei fod yn ymgais fwriadol i atal y cynllun addysg. Mae’r cyllid yn ei le; mae’r cais cynllunio yn barod, felly pam gwneud hyn rŵan?”
Mae’r mudiad Rhieni Tros Addysg Gymraeg hefyd wedi galw ar Gyngor Powys i wrthwynebu’r cais i restru’r ysgol – mae gan y cyngor hyd at 2 Ionawr i ymateb.
“Mae dymchwel hen Ysgol Maesydre yn elfen hanfodol o’r datblygiad ac yn golygu y caiff ysgol Gymraeg gyntaf y Trallwng gartref parhaol mewn adeilad addas gydag adnoddau o’r radd flaena’,” meddai Cyfarwyddwr Datblygu RhAG, Ceri McEvoy..
“Mae’n ymddangos i ni bod hon yn ymgais clir i danseilio ymdrechion y Cyngor i fuddsoddi’n helaeth mewn darpariaeth addysg yn y dref; cynigion sydd wedi derbyn cefnogaeth a chydsyniad rhieni, Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru.”
Roedd agor Ysgol Gynradd Gymraeg y Trallwng ym mis Medi yn “garreg filltir hanesyddol”, meddai.
Y cais
Sail y cais i Cadw yw fod yr ysgol yn waith pensaer nodedig ac mai hi oedd y gynta’ i’w chynllunio ganddo.
Pe bai Cadw’n rhestru’r adeilad yn un hanesyddol, fe fyddai hynny’n gosod rhwystrau ar unrhyw newidiadau i’r ysgol.
Mae RhAG wedi sgrifennu at y cynghorydd sy’n gyfrifol am addysg ym Mhowys, Myfanwy Alexander ac, yn ôl Elwyn Vaughan, mae disgwyl y bydd y Cyngor yn gweithredu.