Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud “nad yw hi’n gweld gwerth” mewn cael corff arall i ddelio â chwynion yn ymwneud â’r iaith.
Roedd Meri Huws gerbron pwyllgor o Aelodau Cynulliad y bore yma ac yn ateb cwestiynau am gynnig Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ar gymryd cyfrifoldeb dros ddelio â chwynion am wasanaeth Cymraeg cyrff cyhoeddus.
Dywedodd y byddai’n ffafrio cael un corff i rannu cyfrifoldebau hybu a hyrwyddo a rheoleiddio’r Gymraeg, o ran ymarferoldeb a chostau.
Wrth ateb cwestiynau ar yr ymgynghoriad i Fil y Gymraeg Llywodraeth Cymru, dywedodd Meri Huws nad yw hi’n “gyfforddus o gwbwl” gyda’r cynnig yn y Papur Gwyn y gallai’r Llywodraeth, yn hytrach na’r Comisiynydd osod Safonau Iaith.
Oedi wrth osod Safonau
Wrth i Meri Huws a Dyfan Siôn, Cyfarwyddwr Strategol y Comisiynydd, ateb cwestiynau’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, daeth cadarnhad fod y broses o greu rhagor o reoliadau Safonau Iaith wedi cael ei ohirio wrth i’r ymgynghori ar Fil y Gymraeg barhau.
Mae hyn yn golygu bod yna oedi wedi bod ar osod Safonau Iaith ar ragor o gyrff, fel cwmnïau trenau a bysus.
Y sector iechyd yw’r maes nesaf fydd yn dod dan y Safonau, gyda Meri Huws yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud gyda’r Byrddau Iechyd ar bethau fel cofrestru sgiliau iaith eu gweithwyr.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymateb i sylw’r Comisiynydd gan ddweud ei fod eisoes yn cofrestru sgiliau iaith 76% o’i weithlu a’i fod yn ceisio gwella hyn.
Daeth i’r amlwg yn y cyfarfod heddiw hefyd fod Meri Huws a’i swyddfa wedi gofyn am fwy o arian gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, dros yr haf.
Ond “cyllideb fflat”, meddai, sydd wedi’i bennu i swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn nesaf a dywedodd ei bod yn “derbyn hynny” o ystyried y rhwystrau ariannol sy’n wynebu cyrff cyhoeddus.
Ond mae llai o arian wedi golygu bod llai o ymchwil yn cael ei wneud gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a dywed ei bod wedi gorfod cydweithio gyda chyrff eraill.
Newid mewn agwedd
Mae newid diwylliannol wedi digwydd o ran agweddau cyrff tuag at y Gymraeg erbyn hyn, yn ôl Meri Huws, gan ddweud bod ei pherthynas gyda llawer o sefydliadau wedi gwella ers iddi ddechrau yn y swydd pum mlynedd yn ôl.