Mae’r cwmni cynhyrchu awyrennau, Bombardier, wedi cyhoeddi y bydd 280 o bobol yn colli’u gwaith yn ei ffatri yng Ngogledd Iwerddon.
Yn ol y cwmni sydd â’i bencadlys yng Nghanada, mae angen iddo dorri’r swyddi er mwyn gallu bod yn gystadleuol yn y tymor hir.
Mae Bombardier wedi bod mewn ffrae fasnachol gyda Boeing – ffrae sydd wedi tynnu Theresa May i’w chanol sawl gwaith, yn lobïo Donald Trump ynglyn â’r cytundeb.
Dyw hi ddim yn glir p’un ai ydi’r ffrae honno wedi dylanwadu ar y rownd ddiweddara’ o ddiswyddiadau.
Mae tua chwarter y 4,000 o weithwyr yn gweithio ar yr awyrennau C-Series, yn canolbwyntio ar waith ar yr awyrennau.
Fe gafodd 1,000 o swyddi eu torri yn ffatri Bombardier yn ninas Belffast y llynedd, fel rhan o ail-strwythuro rhyngwladol gan y cwmni. Fe gyhoeddwyd fis diwetha’ fod 95 o swyddi eraill yn mynd.