Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi rhagor o fanylion am gynlluniau am gyswllt rheilffordd o Gymru i Heathrow.

Yn ôl papur y Sunday Times mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, yn gweithio ar gynllun £500 miliwn fydd yn cysylltu de Cymru â’r maes awyr ar gyrion Llundain.

Byddai’r prosiect yn golygu fod modd teithio’n syth o Gymru i’r maes awyr, sydd ymysg y prysuraf yn y byd, heb orfod teithio i ganol Llundain yn gyntaf.

Ond dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth, Rhodri Glyn Thomas, fod Llywodraeth San Steffan wedi siomi yn y gorffennol a bod angen rhagor o wybodaeth cyn cofleidio’r cynllun.

“Rwy’n bryderus iawn am y diffyg manylion a roddwyd i’r cyhoedd am y cynlluniau arfaethedig hyn,” meddai.

“Mae busnesau  a theithwyr Cymru yn cofio ond yn rhy dda am fethiant y llywodraeth i gyflwyno trydaneiddio’r lein i Abertawe, ac ni fuasai’n deg codi eu gobeithion, dim ond i’w siomi eto fyth.

“Bydd ASau Plaid Cymru yn gofyn i weinidogion Llywodraeth San Steffan am eglurhad a manylion llawn am beth yn union sy’n cael ei gynnig a faint fydd y gost.”

Byddai’r rheilffordd newydd hefyd yn cysylltu Cymru gyda’r rheilffordd gyflym arfaethedig o Lundain i Firmingham.

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn amcangyfrif y gallai dorri 30 munud oddi ar y siwrne o Gymru i Heathrow.

Byddai’r orsaf rheilffordd newydd yn Heathrow yn cysylltu’n uniongyrchol â Reading. Dyw hi ddim yn amlwg eto a fydd trenau yn gallu teithio’n uniongyrchol o Gymru.